2015 Rhif 2076 (Cy. 312)

PYSGODFEYDD MôR, CYMRU

CADWRAETH PYSGOD MôR

Gorchymyn Cramenogion Penodedig (Gwahardd eu Pysgota, eu Glanio, eu Gwerthu a’u Cludo) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â physgota, glanio a gwerthu cramenogion penodedig, eu rhoi ar ddangos i’w gwerthu neu gynnig eu gwerthu, a meddu arnynt at ddiben eu gwerthu a’u cludo yng Nghymru ac ym mharth Cymru.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu, yn disodli ac yn ail-wneud â diwygiadau ddarpariaethau Gorchymyn Crancod Rhy Fach 1986 (O.S. 1986/497), Gorchymyn Crancod Llygatgoch Rhy Fach 1989 (O.S. 1989/919), Gorchymyn Crancod Rhy Fach (Amrywio) 1989 (O.S. 1989/2443), Gorchymyn Cimychiaid Rhy Fach 1993 (O.S. 1993/1178), Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a’u Glanio) 2000 (O.S. 2000/874), Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a’u Glanio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/676 (Cy. 73)) a Gorchymyn Crancod Heglog Rhy Fach (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1897 (Cy. 198)). Mae paragraffau (1) i (3) o erthygl 7 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud y dirymiadau angenrheidiol.

Nid yw darpariaethau'r is-ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd ati uchod ac sy’n darparu pwerau gorfodi i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig yn cael eu hatgynhyrchu yn y Gorchymyn hwn oherwydd mai Swyddogion Gorfodi Morol sydd bellach yn gorfodi’r darpariaethau sydd wedi eu cydgrynhoi yn y Gorchymyn hwn (yn unol â phwerau a welir yn Rhan 8 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23)) ac nid swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig.

Mae’r Gorchymyn hefyd yn dirymu, yn disodli ac yn ail-wneud â diwygiadau Is-ddeddfau 3 (Cimychiaid - Maint lleiaf), 5 (Gwarchod Cimychiaid â Hollt V), 6 (Crancod - Maint lleiaf),  7 (Cimychiaid Cochion - Maint lleiaf) a 46 (Rhannau o Bysgod Cregyn Cramennog) cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (“SWSFC”) ac Is-ddeddfau 29 (Maint lleiaf Cimychiaid) a 31 (Gwarchod Cimychiaid â Hollt V) cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru (“NWNWSFC”). Mae paragraffau (4) a (5) o erthygl 7 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud y dirymiadau angenrheidiol. Ail-wneir amryw rannau o Is-ddeddf 19 (Meintiau Pysgod Penodedig) y cyn NWNWSFC hefyd yn y Gorchymyn hwn a gwneir diwygiadau canlyniadol i’r Is-ddeddf honno (erthygl 7(7)).

Diddymwyd yr SWSFC a’r NWNWSFC, mewn perthynas â Chymru, ar 1 Ebrill 2010 pan ddiddymwyd Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (p. 38) gan adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23). Er 1 Ebrill 2010, mae’r Is-ddeddfau y cyfeiriwyd atynt uchod wedi cael effaith fel pe bai Gweinidogion Cymru wedi eu gwneud drwy offeryn statudol yn rhinwedd paragraffau (1) a (3) o erthygl 13 o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C. 42)) ac Atodlenni 3 a 4 i’r Gorchymyn hwnnw. Mae erthygl 7(6) o’r Gorchymyn hwn yn gwneud y diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i Orchymyn 2010.

Mae erthygl 3(1) o’r Gorchymyn hwn yn gwahardd pysgota am gimychiaid cochion, cimychiaid, crancod cochion a chrancod heglog o dan feintiau lleiaf penodedig yng Nghymru. Mae hefyd yn gwahardd pysgota yng Nghymru ac ym mharth Cymru am grancod llygatgoch o dan faint lleiaf penodedig ac unrhyw gimwch coch neu gimwch â hollt V, nac unrhyw gimwch coch neu gimwch wedi ei lurgunio mewn modd a allai guddio hollt V. Caiff llongau  tramor eu hesemptio o’r gwaharddiad ar bysgota a osodir gan erthygl 3(1) (erthygl 3(2)).

Dilynir cynlluniau gwirfoddol o bryd i’w gilydd pryd y bydd pysgotwyr yn torri hollt ar ffurf V yng nghynffon cimwch neu gimwch coch penodol cyn rhoi’r anifail perthnasol yn ôl yn y môr. Cimychesau wyog neu anifeiliaid sydd ychydig yn llai na’r maint glanio lleiaf yw’r anifeiliaid hyn yn aml. Bydd erthygl 3(1)(g), (h) ac (i) o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod yr anifeiliaid hynny yn cael eu gwarchod dros dro, gan ganiatáu i’r anifail silio a chyfrannu ymhellach at stoc y rhywogaeth honno nes i’r hollt ddiflannu wrth i’r anifail dyfu.

Yn rhinwedd adran 5(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 (p. 84) (“Deddf 1967”) mae’n drosedd pysgota am y pysgod môr a bennir yn erthygl  3 o’r Gorchymyn hwn. Pan ddefnyddir cwch pysgota mewn cysylltiad â’r drosedd honno, bydd capten, perchennog a siartrwr (os oes un) y cwch pysgota hwnnw i gyd yn euog o drosedd. Mae adran 5(6) o’r Ddeddf honno’n darparu bod yn rhaid i unrhyw bysgod môr a bennir yn erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn, pan gânt eu dal, gael eu gollwng yn ôl i’r môr ar unwaith (yn ddarostyngedig i adran 9 o Ddeddf 1967).  Darpara adran 5(7) y bydd y capten, y perchennog a’r siartrwr (os oes un) i gyd yn euog o drosedd pan na chydymffurfir ag is-adran (6). Rhagnodir y cosbau gan adran 11 o Ddeddf 1967.

Mae erthygl 4(1) o’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi meintiau lleiaf ar gyfer glanio cimychiaid cochion, cimychiaid, crancod cochion, crancod heglog a chrancod llygatgoch yng Nghymru. Ceir esemptiad o’r maint glanio lleiaf ar gyfer glanio’r pysgod môr a bennir yn erthygl 4(1) o longau tramor (erthygl 4(2)). Mae adran 1(1) o Ddeddf 1967 yn gwahardd glanio’r rhywogaethau hynny nad ydynt yn bodloni’r gofynion o ran maint lleiaf. Rhagnodir y troseddau a’r cosbau gan adran 1(7) ac (8) ac adran 11 o Ddeddf 1967.

Mae erthygl 4(3) yn gwahardd glanio yng Nghymru unrhyw gimwch coch neu gimwch sydd â hollt V neu unrhyw gimwch coch neu gimwch wedi ei lurgunio mewn modd a allai guddio hollt V. Mae hefyd yn gwahardd glanio unrhyw grafanc neu ran ddatgysylltiedig arall o unrhyw granc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog neu granc llygatgoch yng Nghymru. Caiff llongau tramor eu hesemptio o’r gwaharddiad a osodir yn erthygl  4(3) (erthygl 4(4)).

Yn rhinwedd adran 6(1) o Ddeddf 1967 mae’n drosedd glanio’r cimychiaid cochion, y cimychiaid na’r rhannau o grancod a bennir yn erthygl 4(3). Rhagnodir y cosbau gan adran 11 o Ddeddf 1967.

Mae erthygl 5(1) o’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi meintiau lleiaf ar gyfer gwerthu cimychiaid cochion, cimychiaid, crancod cochion, crancod heglog a chrancod llygatgoch, eu rhoi ar ddangos i’w gwerthu neu gynnig eu gwerthu neu feddu arnynt at ddiben eu gwerthu yng Nghymru. Ceir esemptiad ar gyfer gwerthu etc. y rhywogaethau a bennir sydd o dan y maint lleiaf o longau tramor (erthygl 5(2)). Mae adran 1(2) o Ddeddf 1967 yn gwahardd gwerthu etc. y rhywogaethau hynny nad ydynt yn bodloni’r gofynion o ran y maint lleiaf a nodir gan erthygl 5(1).  Rhagnodir y troseddau a’r cosbau gan adran 1(7) ac (8) ac adran 11 o Ddeddf 1967.

Mae erthygl 5(3) yn gwahardd gwerthu unrhyw gimwch coch neu gimwch â hollt V, neu unrhyw  gimwch coch neu gimwch wedi ei lurgunio mewn modd a allai guddio hollt V neu unrhyw grafanc neu ran ddatgysylltiedig arall o unrhyw granc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog neu granc llygatgoch, eu rhoi ar ddangos i’w gwerthu neu gynnig eu gwerthu. Ceir esemptiad ar gyfer gwerthu etc. y cyfryw gimychiaid cochion, cimychiaid neu rannau o grancod o longau tramor (erthygl 5(4)).

Rhagnodir y troseddau a’r cosbau mewn perthynas â gwerthu etc. y cyfryw gimychiaid cochion neu gimychiaid yn groes i erthygl 5(3) yn adrannau 190 a 191 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23).

Mae erthygl 6(1) o’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi meintiau lleiaf ar gyfer cludo cimychiaid cochion, cimychiaid, crancod cochion a chrancod heglog ar gychod pysgota Prydeinig yng Nghymru. Mae hefyd yn rhagnodi maint lleiaf crancod llygatgoch y caniateir eu cludo ar gychod pysgota Prydeinig yng Nghymru ac ym mharth Cymru. Mae adran 1(3) o Ddeddf 1967 yn gwahardd cludo’r rhywogaethau hynny nad ydynt yn bodloni’r gofynion o ran maint lleiaf a ragnodir gan erthygl 6(1) o’r Gorchymyn hwn yn yr ardal berthnasol. Rhagnodir y troseddau a’r cosbau gan adran 1(7) ac (8) ac adran 11 o Ddeddf 1967.

Mae erthygl 6(2) yn gwahardd cludo ar unrhyw gwch pysgota Prydeinig yng Nghymru unrhyw  gimwch coch neu gimwch â hollt V, neu unrhyw  gimwch coch neu gimwch wedi ei lurgunio mewn modd a allai guddio hollt V. Mae hefyd yn gwahardd cludo ar unrhyw gwch pysgota Prydeinig yng Nghymru unrhyw grafanc neu ran ddatgysylltiedig arall o unrhyw granc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog neu granc llygatgoch. Rhagnodir y troseddau a’r cosbau mewn perthynas â chludo’r cyfryw gimychiaid cochion, cimychiaid neu grafangau neu rannau datgysylltiedig eraill o’r crancod a bennir yn groes i erthygl 6(2) yn adrannau 190 a 191 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23).

Mae erthygl 7 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud y diwygiadau canlyniadol a’r dirymiadau angenrheidiol mewn perthynas ag O.S. 1986/497, O.S. 1989/919, O.S. 1989/2443, O.S. 1993/1178, O.S. 2000/874, O.S. 2002/676 (Cy. 73), O.S. 2002/1897 (Cy. 198) ac Is-ddeddfau 3 (Cimychiaid – Maint lleiaf), 5 (Gwarchod Cimychiaid â Hollt V), 6 (Crancod – Maint lleiaf),  7 (Cimychiaid Cochion – Maint lleiaf) a 46 (Rhannau o Bysgod Cregyn Cramennog) y cyn SWSFC ac Is-ddeddfau 19 (Meintiau Pysgod Penodedig), 29 (Maint lleiaf Cimychiaid) a 31 (Gwarchod Cimychiaid â Hollt V) y cyn NWNWSFC.

Pennir meintiau lleiaf ar gyfer cimychiaid cochion, cimychiaid, crancod cochion a chrancod heglog gan Erthygl 17 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 dyddiedig 30 Mawrth 1998 ac Atodiad XII iddo ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol i warchod organeddau morol ifanc (OJ Rhif L 125, 24.04.98, t. 1) (“Rheoliad y Cyngor”). Mae Erthygl 19(1) o Reoliad y Cyngor yn darparu na chaniateir cadw organeddau morol sy’n llai na’r meintiau lleiaf penodedig ar fwrdd llong na’u  trosglwyddo i long arall, eu glanio, eu cludo, eu  storio, eu gwerthu, eu harddangos na’u cynnig i’w gwerthu a bod yn rhaid eu gollwng yn ôl i’r môr ar unwaith.

Darpara Erthygl 18(3) o Reoliad y Cyngor mai dim ond cadw cimychiaid a chimychiaid cochion (a rhywogaethau penodedig eraill) ar fwrdd llong a’u glanio’n gyflawn a ganiateir. 

Gwneir y Gorchymyn hwn yn ddibynnol ar Erthygl 46(1) o Reoliad y Cyngor, sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i gymryd rhai camau technegol cenedlaethol o ran cadwraeth stociau a’u rheoli.

Bydd y cyfyngiadau o ran meintiau lleiaf a osodwyd gan Erthygl 17 o Reoliad y Cyngor ac Atodiad XII iddo yn parhau i fod yn gymwys yn y rhan o barth Cymru sy’n ymestyn y tu hwnt i Gymru. Bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at ddarpariaethau Rheoliad y Cyngor drwy gyflwyno meintiau lleiaf is ar gyfer cimychiaid cochion, cimychiaid, crancod cochion a chrancod heglog yn y môr tiriogaethol gerllaw Cymru. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn cyflwyno camau i warchod y cranc llygatgoch (drwy osod maint lleiaf ar gyfer pysgota, glanio, gwerthu a chludo ledled Cymru a pharth Cymru) a’r cranc gwyrdd (drwy wahardd glanio neu gludo rhannau datgysylltiedig o grancod gwyrddion yng Nghymru).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Mae copi ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru, Is-adran y Môr a Physgodfeydd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


2015 Rhif 2076 (Cy. 312)

Pysgodfeydd môr, Cymru

Cadwraeth pysgod môr

Gorchymyn Cramenogion Penodedig (Gwahardd eu Pysgota, eu Glanio, eu Gwerthu a’u Cludo) (Cymru) 2015

Gwnaed                               23 Rhagfyr 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       30 Rhagfyr 2015

Yn dod i rym                        1 Chwefror 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1(1), (2), (3), (4) a (6), 5(1) a (2), 6(1) a (3) ac 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967([1]) ac adrannau 189(1) a 316(1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009([2]).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cramenogion Penodedig (Gwahardd eu Pysgota, eu Glanio, eu Gwerthu a’u Cludo) (Cymru) 2015 a daw i rym ar 1 Chwefror 2016.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Mae erthyglau 3(f), (g), (h) ac (i) a 6(1)(f) yn gymwys o ran Cymru a pharth Cymru.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “cimwch” (“lobster”) yw cimwch o’r rhywogaeth Homarus gammarus;

ystyr “cimwch coch” (“crawfish”) yw cimwch coch o’r rhywogaethau Palinurus elephas a Palinurus mauritanicus;

ystyr “cranc coch” (“edible crab”) yw cranc o’r rhywogaeth Cancer pagurus;

ystyr “cranc gwyrdd” (“green crab”) yw cranc o’r rhywogaeth Carcinus maenas;

ystyr “cranc heglog” (“spider crab”) yw cranc o’r rhywogaeth Maia spp;

ystyr “cranc llygatgoch” (“velvet crab”) yw cranc o’r rhywogaeth Necora puber;

ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd naill ai wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnach 1995([3]) neu sy’n eiddo’n gyfan gwbl i bersonau sy’n gymwys i fod yn berchen ar longau Prydeinig at ddibenion y Rhan honno o’r Ddeddf honno;


mae i “Cymru” yr un ystyr a roddir i “Wales” yn rhinwedd adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006([4]);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967([5]);

ystyr “hollt V” (“V notch”) yw marc ar ffurf y llythyren “V” wedi ei dorri mewn o leiaf un o bum llabed cynffon unrhyw gimwch neu gimwch coch, ag apig y llythyren “V” wedi ei gosod at i mewn o ymyl y llabed;

ystyr “llong dramor” (“foreign vessel”) yw unrhyw gwch pysgota ar wahân i gwch pysgota Prydeinig;

ystyr “maint” (“size”) yw—

(a)     mewn perthynas â chimwch coch, hyd y gragen, ar hyd y llinell ganol, o flaen y pigyn gylfinog canol hyd at ymyl pellaf y gragen, fel a ddangosir yn Niagram 1 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn,

(b)     mewn perthynas â chranc coch, lled y gragen wedi ei fesur ar draws rhan letaf y cefn, fel a ddangosir yn Niagram 2 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn,

(c)     mewn perthynas â chimwch, hyd y gragen, wedi ei fesur yn gyflin â’r llinell ganol o gefn twll unrhyw un o’r llygaid hyd at ymyl pellaf y gragen, fel a ddangosir yn Niagram 3 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn,

(d)     mewn perthynas â chranc heglog, hyd y gragen, ar hyd y llinell ganol, o ymyl y gragen rhwng y gylfinod hyd at ymyl ôl y gragen, fel a ddangosir yn Niagram 4 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, ac

(e)     mewn perthynas â chranc llygatgoch, lled y gragen wedi ei fesur ar draws rhan letaf y cefn, heb gynnwys pigau, fel a ddangosir yn Niagram 2 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn;

mae i “parth Cymru” yr un ystyr a roddir i “Welsh Zone” yn rhinwedd adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru2006([6]); ac

ystyr “wedi ei lurgunio” (“mutilated”) mewn perthynas â chimwch neu gimwch coch, yw cimwch neu gimwch coch sydd wedi ei lurgunio mewn modd sy’n cuddio hollt V.

Gwahardd pysgota am gimwch coch, cimwch, cranc coch, cranc heglog a chranc llygatgoch penodedig

3.(1)(1) Gwaherddir pysgota am—

(a)     cimwch coch sy’n llai na 110 o filimetrau o faint;

(b)     cimwch sy’n llai na 90 o filimetrau o faint;

(c)     cranc coch sy’n llai na 140 o filimetrau o faint;

(d)     cranc heglog benyw sy’n llai na 120 o filimetrau o faint;

(e)     cranc heglog gwryw sy’n llai na 130 o filimetrau o faint;

(f)      cranc llygatgoch sy’n llai na 65 o filimetrau o faint;

(g)     cimwch coch wedi ei lurgunio;

(h)     cimwch wedi ei lurgunio; neu

(i)      unrhyw gimwch coch neu gimwch â hollt V.

(2) Caiff pysgota o longau tramor ei esemptio o’r gwaharddiad a osodir gan baragraff (1).

Gwahardd glanio cimwch coch, cimwch, cranc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog a chranc llygatgoch penodedig

4.(1)(1) At ddibenion adran 1(1) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd glanio unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw), rhagnodir mai’r maint lleiaf ar gyfer—

(a)     cimwch coch, yw 110 o filimetrau;

(b)     cimwch, yw 90 o filimetrau;

(c)     cranc coch, yw 140 o filimetrau;

(d)     cranc heglog benyw, yw 120 o filimetrau;

(e)     cranc heglog gwryw, yw 130 o filimetrau; ac

(f)      cranc llygatgoch, yw 65 o filimetrau.

(2) Caiff glanio o longau tramor ei esemptio o’r gwaharddiad a osodir gan adran 1(1) o’r Ddeddf fel y’i darllenir ynghyd â pharagraff (1).

(3) Gwaherddir glanio unrhyw—

(a)     cimwch coch wedi ei lurgunio;

(b)     cimwch wedi ei lurgunio;

(c)     cimwch coch neu gimwch â hollt V; neu

(d)     crafanc neu ran ddatgysylltiedig arall o unrhyw granc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog neu granc llygatgoch,

ni waeth lle y’u daliwyd.

(4) Caiff glanio o longau tramor ei esemptio o’r gwaharddiad a osodir gan baragraff (3).

Gwahardd gwerthu cimwch coch, cimwch, cranc coch, cranc heglog a chranc llygatgoch penodedig, eu rhoi ar ddangos i’w gwerthu neu gynnig eu gwerthu neu feddu arnynt

5.(1)(1) At ddibenion adran 1(2) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd gwerthu unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw, rhoi unrhyw bysgodyn o’r fath ar ddangos i’w werthu neu gynnig ei werthu, neu feddu ar bysgodyn o’r fath at ddiben ei werthu), rhagnodir mai’r maint lleiaf ar gyfer—

(a)     cimwch coch, yw 110 o filimetrau;

(b)     cimwch, yw 90 o filimetrau;

(c)     cranc coch, yw 140 o filimetrau;

(d)     cranc heglog benyw, yw 120 o filimetrau;

(e)     cranc heglog gwryw, yw 130 o filimetrau; ac

(f)      cranc llygatgoch, yw 65 o filimetrau.

(2) Ceir esemptiad o’r gwaharddiad a osodwyd gan adran 1(2) o’r Ddeddf fel y’i darllenir ynghyd â pharagraff (1) ar gyfer gwerthu cimwch coch, cimwch, cranc coch, cranc heglog neu granc llygatgoch sy’n cael eu glanio o longau tramor, ac ar gyfer eu rhoi ar ddangos i’w gwerthu neu gynnig eu gwerthu, neu feddu arnynt at ddiben eu gwerthu.

(3) Gwaherddir gwerthu, rhoi ar ddangos i’w gwerthu neu gynnig gwerthu unrhyw—

(a)     cimwch coch wedi ei lurgunio;

(b)     cimwch wedi ei lurgunio;

(c)     cimwch coch neu gimwch â hollt V; neu

(d)     crafanc neu ran ddatgysylltiedig arall o unrhyw granc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog neu granc llygatgoch,

ni waeth lle y’u daliwyd.

(4) Ceir esemptiad o’r gwaharddiad a osodwyd gan baragraff (3) ar gyfer gwerthu cimwch coch, cimwch neu rannau o grancod penodedig sy’n cael eu glanio o longau tramor, ac ar gyfer eu rhoi ar ddangos i’w gwerthu neu gynnig eu gwerthu.

Gwahardd cludo cimwch coch, cimwch, cranc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog a chranc llygatgoch penodedig ar gwch pysgota Prydeinig

6.(1)(1) At ddibenion adran 1(3) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd cludo unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw ar gychod pysgota penodedig), gwaherddir cwch pysgota Prydeinig rhag cludo unrhyw—

(a)     cimwch coch sy’n llai na 110 o filimetrau o faint;

(b)     cimwch sy’n llai na 90 o filimetrau o faint;

(c)     cranc coch sy’n llai na 140 o filimetrau o faint;

(d)     cranc heglog benyw sy’n llai na 120 o filimetrau o faint;

(e)     cranc heglog gwryw sy’n llai na 130  o filimetrau o faint; ac

(f)      cranc llygatgoch sy’n llai na 65 o filimetrau o faint.

(2) Gwaherddir cludo ar gwch pysgota Prydeinig yng Nghymru—

(a)     cimwch coch wedi ei lurgunio;

(b)     cimwch wedi ei lurgunio;

(c)     unrhyw gimwch coch neu gimwch â hollt V;

(d)     crafanc neu ran ddatgysylltiedig arall o unrhyw granc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog neu granc llygatgoch,

ni waeth lle y’u daliwyd.

 Dirymiadau a diwygiadau canlyniadol

7.(1)(1) Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu mewn perthynas â Chymru—

(a)     Gorchymyn Crancod Rhy Fach 1986([7]);

(b)     Gorchymyn Crancod Rhy Fach (Amrywio) 1989([8]);

(c)     Gorchymyn Cimychiaid Rhy Fach 1993([9]);

(d)     Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a’u Glanio) (Cymru) 2002([10]);

(e)     Gorchymyn Crancod Heglog Rhy Fach  (Cymru) 2002([11]).

(2) Mae Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a’u Glanio) 2000([12]) wedi ei ddirymu mewn perthynas â’r rhan o barth Cymru sy’n ymestyn tu hwnt i Gymru.

(3) Mae Gorchymyn Crancod Llygatgoch Rhy Fach 1989([13]) wedi ei ddirymu mewn perthynas â Chymru a pharth Cymru.

(4) Mae Is-ddeddfau a ganlyn y cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru([14]) wedi eu dirymu o ran Cymru—

(a)     Is-ddeddf 3 (Cimychiaid – Maint lleiaf)([15]);

(b)     Is-ddeddf 5 (Gwarchod Cimychiaid â Hollt V)([16]);

(c)     Is-ddeddf 6 (Crancod – Maint lleiaf)([17]);

(d)     Is-ddeddf 7 (Cimychiaid Cochion – Maint lleiaf)([18]); ac

(e)     Is-ddeddf 46 (Rhannau o Bysgod Cregyn Cramennog)([19]).

(5) Mae Is-ddeddfau a ganlyn cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru([20]) wedi eu dirymu o ran Cymru—

(a)      Is-ddeddf 29 (Maint lleiaf Cimychiaid)([21]); a

(b)     Is-ddeddf 31 (Gwarchod Cimychiaid â Hollt  V)([22]).

(6) Yng Ngorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010([23])—

(a)     yn y Tabl yn Atodlen 3, dileer y rhesi sy’n ymwneud ag Is-ddeddfau 3, 5, 6, 7 a 46; a

(b)     yn y Tabl yn Atodlen 4, dileer y rhesi sy’n ymwneud ag Is-ddeddfau 29 a 31.

(7) Yn Is-ddeddf 19 (Meintiau Pysgod Penodedig)([24]) cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru([25]), yn y Tabl yn pennu meintiau lleiaf pysgod cragen, dileer y rhesi sy’n ymwneud â’r Cimwch Coch (Palinurus spp), y Cranc Coch (Cancer pagurus), y Cimwch (Homarus gammarus), y Cranc Heglog (Maja squinado) a’r Cranc Llygatgoch (Liocarcinus puber).

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

23 Rhagfyr 2015

 

 


                                          YR ATODLEN                                Erthygl 2

MESUR MAINT CRAMENOGION PENODEDIG

                                           SCHEDULE                                    Article 2

MEASUREMENT OF SIZE OF SPECIFIED CRUSTACEANS

 

Diagram 1 (Cimwch Coch)

Diagram 1 (Crawfish)

Diagram 2 (Cranc Coch a Chranc Llygatgoch)

Diagram 2 (Edible Crab and Velvet Crab)

Diagram 3 (Cimwch)

Diagram 3 (Lobster)

Diagram 4 (Cranc Heglog)

Diagram 4 (Spider Crab)

 



([1])   1967 p. 84 (“Deddf 1967”). Amnewidiwyd adran 1 o Ddeddf 1967 gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29), adran 19(1). Diwygiwyd adran 1(1) o Ddeddf 1967 gan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) (“Deddf 2009”), adran 194(1) a (2) ac O.S. 1999/1820, erthygl 4, Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 43(1), (2)(a). Diwygiwyd adran 1(2) o Ddeddf 1967 gan Ddeddf 2009, adran 194(1) a (3), ac O.S. 1999/1820, erthygl 4, Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 43(1), (2)(a). Amnewidiwyd adran 1(3) o Ddeddf 1967 gan Ddeddf 2009, adran 194(1) a (4). Diwygiwyd adran 1(4) o Ddeddf 1967 gan Ddeddf 2009, adran 201, Atodlen 15, paragraff 1(1), (2)(a) a (b). Gweler adran 1(9) am ddiffiniad o “the appropriate national authority”. Mewnosodwyd adran 1(9) gan Ddeddf 2009, adran 194(1) a (5), ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2010/760, erthygl 4(2) a (3). Amnewidiwyd adran 5(1) gan Ddeddf 2009, adran  198(1) a (2). Diwygiwyd adran 5(2) gan Ddeddf 2009, adran 201, Atodlen 15, paragraff 3(1) a (2). Gweler adran 5(9) am ddiffiniad o “the appropriate national authority”. Mewnosodwyd adran 5(9) gan Ddeddf 2009, adran 198(3) ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2010/760 erthygl 4(2) a (4). Diwygiwyd adran 6(1) gan O.S. 1999/1820, erthygl 4, Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 43(1) a (6)(a). Diwygiwyd adran 22(2) o Ddeddf 1967, sy’n cynnwys diffiniad o “the Ministers”, gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29), adran 19(2)(d) a (3) a 45 a 46, Atodlen 5, Rhan II ac O.S. 1999/1820, erthygl 4, Atodlen 2, Rhan I, paragraff 43(1) a (12), Rhan IV. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion sy’n arferadwy o dan adrannau 6(1) ac 20(1) o Ddeddf 1967 a swyddogaeth y Bwrdd Masnach yn adran 6(1) o Ddeddf 1967 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y’i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)) i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 2 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau hynny Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno. I’r graddau y maent yn arferadwy o ran parth Cymru, trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd erthygl 4(1)(e) o Orchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/760).

([2])   2009 p. 23.

([3])   1995 p. 21.

([4])   2006 p. 32. Diwygiwyd adran 158(1) gan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23), adran 43(1) a (2). At ddibenion y diffiniad o “Wales” yn adran 158(1) o Ddeddf 2009, y ffin rhwng y rhannau hynny o’r môr o fewn Aberoedd Afonydd Hafren a Dyfrdwy sydd i’w trin fel bod gerllaw Cymru a’r rhai nad ydynt i’w trin felly, yn y ddau achos, yw llinell wedi ei thynnu rhang y cyfesurynnau a osodwyd yn Atodlen 3 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf 2006 a pharagraff 26 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno, mae O.S. 1999/672 yn parhau i gael effaith.

([5])   1967 p. 84.     

([6])   Pennir parth Cymru yn O.S. 2010/760.

([7])   O.S. 1986/497 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1989/2443.

([8])   O.S. 1989/2443.

([9])   O.S. 1993/1178.

([10]) O.S. 2002/676 (Cy. 73).

([11]) O.S. 2002/1897 (Cy. 198).             

([12]) O.S. 2000/874.

([13]) O.S. 1989/919.

([14]) Diddymwyd Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru ar 1 Ebrill 2010 pan ddaeth erthygl 3 o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C. 42)) ag adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) i rym, â’r effaith o ddiddymu Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (p. 38).

([15]) Mae Is-ddeddf 3 cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru yn cael effaith fel pe bai Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud mewn offeryn statudol mewn perthynas â’r un ardal o Gymru â’r ardal yr oedd yr Is-ddeddf honno’n gymwys iddi’n wreiddiol yn rhinwedd erthygl 13(1) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010(O.S. 2010/630 (C. 42)) ac Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwnnw.

([16]) Mae Is-ddeddf 5 cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru yn cael effaith fel pe bai Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud mewn offeryn statudol mewn perthynas â’r un ardal o Gymru â’r ardal yr oedd yr Is-ddeddf honno’n gymwys iddi’n wreiddiol, yn rhinwedd erthygl 13(1) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaeth Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010(O.S. 2010/630 (C. 42)) ac Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwnnw.

([17]) Mae Is-ddeddf 6 cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru yn cael effaith fel pe bai Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud mewn offeryn statudol mewn perthynas â’r un ardal o Gymru â’r ardal yr oedd yr Is-ddeddf honno’n gymwys iddi’n wreiddiol, yn rhinwedd erthygl 13(1) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010(O.S. 2010/630 (C. 42)) ac Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwnnw.

([18]) Mae Is-ddeddf 7 cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru yn cael effaith fel pe bai Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud mewn offeryn statudol mewn perthynas â’r un ardal o Gymru â’r ardal yr oedd yr Is-ddeddf honno’n gymwys iddi’n wreiddiol, yn rhinwedd erthygl 13(1) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010(O.S. 2010/630 (C. 42)) ac Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwnnw.

([19]) Mae Is-ddeddf 46 cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru yn cael effaith fel pe bai Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud mewn offeryn statudol mewn perthynas â’r un ardal o Gymru â’r ardal yr oedd yr Is-ddeddf honno’n gymwys iddi’n wreiddiol, yn rhinwedd erthygl 13(1) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C. 42)) ac Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwnnw.

([20]) Diddymwyd Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru, o ran Cymru, ar 1 Ebrill 2010 pan ddaeth erthygl 3 o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif No. 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C. 42)) ag adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) i rym, â’r effaith o ddiddymu Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (p. 38) o ran Cymru.

([21]) Mae Is-ddeddf 29 cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru yn cael effaith fel pe bai Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud mewn offeryn statudol mewn perthynas â’r un ardal o Gymru â’r ardal yr oedd yr Is-ddeddf yn gymwys iddi’n wreiddiol, yn rhinwedd erthygl 13(3) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C. 42)) ac Atodlen 4 i’r Gorchymyn hwnnw.

([22]) Mae Is-ddeddf 31 cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru yn effeithiol fel pe bai Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud mewn offeryn statudol mewn perthynas â’r un ardal o Gymru â’r ardal yr oedd yr Is-ddeddf honno’n gymwys iddi’n wreiddiol, yn rhinwedd erthygl 13(3) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010(O.S. 2010/630 (C. 42)) ac Atodlen 4 i’r Gorchymyn hwnnw.

([23]) O.S. 2010/630 (C. 42). Gwnaed diwygiadau i Atodlen 4 i Orchymyn 2010 ond nid ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

([24]) Mae Is-ddeddf 19 cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru yn cael effaith fel pe bai Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud mewn offeryn statudol mewn perthynas â’r un ardal o Gymru â’r ardal yr oedd yr Is-ddeddf honno’n gymwys iddi’n wreiddiol, yn rhinwedd erthygl 13(3) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C. 42)) ac Atodlen 4 i’r Gorchymyn hwnnw.

([25]) Diddymwyd Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru, o ran Cymru, ar 1 Ebrill 2010 pan ddaeth erthygl 3 o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif No. 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C. 42)) ag adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) i rym, â’r effaith o ddiddymu Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (p. 38) o ran Cymru.